Datganiad i’r Wasg: Dydd Llun 12 Hydref, 2020
Mae’r Cyngor Un Blaned yn falch o fedru cefnogi galwad y Cynghorydd Lenny am adolygiad o’r polisi Datblygiad Un Blaned, ac yn edrych ymlaen at gyflwyno sawl enghraifft o lwyddiannau Datblygiadau Un Blaned yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt. Rydym yn croesawu’r awgrym i gyfuno elfennau o’r meddylfryd Un Blaned i mewn i benderfyniadau cynllunio eraill, yn gyson ag arddatganiad Sir Gaerfyrddin parthed yr argyfwng newid hinsawdd a’i uchelgeision sero net, ac yn unol â gofynion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Fodd bynnag, rydym yn siomedig o weld bod y cynnig a roddwyd gerbron cyfarfod llawn o’r cyngor ar ddydd Mercher gan Gynghorydd Sir Gaerfyrddin, Alun Lenny (Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio), yn argymell rhyw fath o “foratoriwm” ar geisiadau DUB newydd.
Yn nhermau polisïau cynllunio, mae Datblygiad Un Blaned yn gymharol ifanc. Mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010, ond bu raid aros tan 2013 i’r DUB cyntaf (yng Nghaerffili) gael ei ganiatáu. Hyd yn oed heddiw, dim ond ychydig llai na 40 o dyddynnod cydnabyddedig DUB sydd mewn bodolaeth, yn cynnwys dim ond 300 acer rhyngddynt, a hynny ledled Cymru gyfan. Fe fyddai atal polisi mor arloesol a blaenfynedol sy’n rhoi cynaliadwyedd gwirioneddol o flaen popeth arall yn anghyfrifol, ac fe fyddai cyfle euraidd yn cael ei golli yn ystod y cyfnod yma o argyfwng newid hinsawdd, Covid-19 a Brexit. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio, yn hytrach, ar gefnogi a galluogi polisïau effaith isel / lles uchel sy’n ffocysu ar wneud adeiladu sero carbon, adlamedd bwyd, mentrau gwledig, ynni adnewyddadwy a rheoli gwastraff cyfrifol hyd yn oed mwy hygyrch i bobl Cymru a thu hwnt.
Mae’r Cyngor Un Blaned yn ymwybodol bod pobl ledled y byd yn edrych ar DUP fel un ateb posibl i gymryd mwy o gyfrifoldeb am y ffordd yr ydym yn defynddio adnoddau ac yn byw ein bywydau. Tu hwnt i’n amgorau, gweler Cymru fel gwlad sydd ar flaen y gâd ledled y byd ac yn ysbrydoliaeth i fwrw ati i newid pethau er gwell. Yn y Deyrnas Unedig, mae Dartmoor a Chernyw yn defnyddio’r adeiladwaith DUP er mwyn rhoi ar waith brosiectau tebyg, a mae gwledydd eraill (Yr Iwerddon, Seland Newydd) yn archwilio’r posibiliadau.
Os yw’r polisi yn “ganmoliaethus” ond yn “broblematig”, yna mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gweithio tuag at ddatrys y problemau. Yma rydym yn ymateb i dri consérn y Cynghorydd Lenny:
Rydym yn cydnabod bod yna leiafrif bychan sy’n bodoli o “chwerwder gan drigolion lleol” ac ei bod yn bwysig bod hyn yn derbyn sylw, ond nid yw chwerwder yn ystyriaeth cynllunio perthnasol. Mae Datblygiad Un Blaned yn bolisi cenedlaethol ac felly yn un a geir ei ystyried yn gytbwys â’r Cynllun Datblygu Lleol. Rydym yn nodi bod Datblygiad Un Blaned yn agored i bawb, beth bynnag eu cefndir. Hoffem annog yr rhai hynny sy’n dal dig i fanteisio ar y cyfle i baratoi ceisiadau Datblygiad Un Blaned, yn enwedig ble cafodd ceisiadau anghynaliadwy eu gwrthod yn y gorffennol. Rydym hefyd yn nodi bod Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 yn darparu ar gyfer “Anheddau Mentrau Gwledig” (4.3), “Anheddau Newydd ar Fentrau Gwledig Sefydledig” (4.4), “Ail Anheddau ar Ffermydd Sefydledig” (4.5) ac “Anheddau Newydd ar Fentrau Newydd” (4.6) yn ogystal â’r polisi o Ddatblygiad Un Blaned (4.15). Fe dyliai’r holl bolisïau yma gael eu cefnogi a’u hybu fel cyfranwyr tuag at economi gwledig cynaliadol a darpariaeth tai sy’n gweithio er lles pawb.
Mae’r polisïau Anhedd Mentr Gwledig a DUP yn wahanol. Natur rhagolygol caniatâd Datblygiad Un Blaned yw’r rheswm am adroddiad arolygu flynyddol yn y 5 mlynedd cyntaf a’r rheswm am ddarpariad Strategaeth Ymadael o fewn y cynllun rheoli. Os digwydd i DUP fethu ei dargedau, fe fyddai’r Strategaeth Ymadael yn cael ei weithredu. Mae Datblygiadau Un Blaned yn cael eu caniatáu o dan amodau llawer mwy llym nag unrhyw fath arall o ddatblygiad.
Rydym yn deall bod Awdurdodau Cynllunio Lleol yn cael trafferth gyda threfniadau arolygu ac nad ydyw asesiadau amaethyddol yn addas ar gyfer Datblygiadau Un Blaned. Mae’r Cyngor Un Blaned yn cynnig hyfforddiant ar gyfer swyddogion cynllunio a phobl proffesiynol eraill ar 30ain o Hydref ac yr ydym wedi gwahodd cynllunwyr Sir Gaerfyrddin i ymuno. Rydym hefyd yn cydnabod bod angen cymorth ar gyfer baich yr arolygu ac yr ydym yn galw ar lywodraeth Cymru i gynnig y cymorth yna i awdurdodau lleol gan gymeryd ffurf cymorth ariannol er mwyn datblygu galluogrwydd mewnol neu er mwyn cyflogi arbenigwyr cymwys efo arbenigedd addas mewn cynaliadwyedd, ecoleg a/neu garddoriaeth.
Nodwn mai’r cynnig nesaf gerbron y Cyngor ddydd Mercher, yn dilyn yr un yma, yw gair o ddiolch am “[g]ydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach, y diwydiant ffermio a mentrau gwledig wedi’i wneud ers dechrau argyfwng Covid-19 yn Sir Gaerfyrddin.” Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod Datblygiadau Un Blaned ymysg arweiniaeth yr ymateb cymunedol yma. Mae DUP yn Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu cynhyrchiant bwyd yn 2020 er mwyn ymateb i godiad yn y gofyn am gynnyrch lleol, tymhorol, cynaliadol, ac eu bod wedi bod yn gweithio ddydd a nos er mwyn darparu cynnyrch i’r rheini sydd yn fregus ac yn gwarchod, yn ogystal â siopau a busnesau lleol.
Mae James a Clare Adamson yn byw ar Ddatblygiad Un Blaned yn Sir Gaerfyrddin (arluniedig):
“Rydym yn rhedeg menter llysiau organig o’n safle DUP yn Sir Gaerfyrddin ac yn cyflenwi pedwar adwerthwyr lleol a marchnadwr rhanbarthol. Yn ystod cyfnodau cynnar yr argyfwn Covid-19, cynyddodd y gofyn am ein cynnyrch yn ddramatig. Gan ein bod yn fusnes bychan roedd yn bosib i ni ymateb yn gyflym a chynyddu ein cynhyrchiant gan 150%. Roeddem yn hapus iawn i fedru cyflenwi adwerthwyr lleol yn ystod yr adeg anodd yma. Mae gan menterau DUP y potensial i helpu creu hydwyther gwledig wrth i ni wynebu newid hinsawdd, ac argyfyngau adnoddau a iechyd.”
Wrth i ni geisio “ail-adeiladu er gwell” yn dilyn y cyfnod anodd yma, mae angen polisïau sy’n atgyfnerthu economi Sir Gaerfyrddin gyda cynnydd gwirioneddol mewn cyfleoedd gwledig, cefnogi cymunedau lleol drwy gadw teuluoedd ifainc yn yr ardal, ac yn gymesur â heriau enfawr yr argyfyngfeydd newid hinsawdd ac ecolegol sydd yn ein hwynebu. Mae Datlbygiad Un Blaned yn bolisi o’r fath. Rydym yn annog Cyngor Sir Gaerfyrddin, a Llywodraeth Cymru, i’w gefnogi.
Cyngor Un Blaned, Dydd Llun 12 Hydref, 2020