Mae Cyngor Un Blaned yn gorff gwirfoddol annibynnol sydd yn galluogi a hybu Datblygiad Un Blaned.
Mae’r polisi cynllunio blaengar hwn yn darparu cyfle i bobl fyw a gweithio ar dir eu hunan mewn gwir ffordd fforddiadwy a chynaliadwy, sydd yn dod â chymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mabwysiadwyd gan Lywodraeth Gymru ym 2011 fel rhan o’i chynllun Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned.
Mesyrir Datblygiadau Un Blaned trwy eu hô l-troed ecolegol, sydd yn dangos faint o ddeunyddau’r Ddaear mae pobl yn eu defnyddio. Wrth i ddeiliaid tai lleihau eu hôl-troed ecolegol eu hun, mae hynny yn helpu lleihau ôl-troed ecolegol eu gwlad yn gyffredinol.
Mae Cyngor Un Blaned yn darparu pont rhwng ymgeiswyr ac awdurdodau cynllunio lleol, gyda chanllawiau ac adnoddau i gefnogi unrhyw un sy’n trosi i’r ffordd fwy cynaliadwy hon o fyw. Mae Cyngor Un Blaned yn gweithio hefyd gyda’r rhai sydd wedi gwneud y naid hon, llunwyr polisi, academyddion a pherchnogion tir.